Beth yw cam-drin ar ôl gwahanu?
Mae llawer o bobl yn tybio bod gadael perthynas gamdriniol yn golygu y bydd y cam-drin yn dod i ben hefyd. Mewn rhai achosion, gall pobl dorri’n rhydd o berthynas a dechrau bywyd newydd heb unrhyw ymyrraeth wedi hynny gan y rhai sydd wedi’u cam-drin. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir i bawb. Gall gadael perthynas gamdriniol fod yn amser peryglus a gall y cam-drin barhau neu waethygu yn ystod y cyfnod hwn. Gall y cam-drin ddigwydd mewn sawl ffordd, gan gynnwys trais corfforol a rhywiol, aflonyddu a bygwth, stelcio, neu fathau eraill o gam-drin lle mae’r camdriniwr yn ceisio cadw ei reolaeth. Gall hyn gynnwys cyfyngu ar gyllid, ymgyrchoedd difrïo neu flacmel hyd yn oed. Gall yr ymddygiadau a welir wrth gam-drin ar ôl gwahanu fod yn wahanol, yn dibynnu ar y cymhellion dros yr ymddygiad a pha fath o bersonoliaeth sydd gan y camdriniwr.
Deall Cam-drin ar ôl Gwahanu:
Gall deall personoliaeth y camdriniwr roi rhywfaint o ddealltwriaeth o’r cymhelliant y tu ôl i’w hymddygiad. Mae gan y rhan fwyaf o gamdrinwyr sy’n cam-drin ar ôl gwahanu bersonoliaeth anarchaidd, personoliaeth feddiangar/obsesiynol neu nodweddion personoliaeth gwrthgymdeithasol. Yn gyffredinol, efallai nad oes ganddynt empathi, maent yn arddangos ymddygiadau gwrthgymdeithasol, ac yn gyffredinol nid ydynt yn ystyried hawliau pobl eraill a’r gyfraith.
Personoliaethau Narsisaidd – Mae gan narsiswyr ymdeimlad chwyddedig o’u pwysigrwydd eu hunain, ac mae ganddynt ddiffyg empathi tuag at eraill. Yng nghyd-destun cam-drin ar ôl gwahanu, efallai y bydd narsisydd yn gweld eu partner fel estyniad ohonyn nhw. Pan ddaw’r berthynas i ben, gall hyn eu harwain i geisio adennill rheolaeth a gallant ddefnyddio tactegau fel dylanwadu, bygythiadau neu gamau eraill sydd â’r bwriad o gosbi’r parti arall am adael.
Personoliaethau Meddiannol a Pheryglus – Mae gan unigolion sydd â phersonoliaethau meddiannol/obsesiynol ofn dwys o gael eu gadael, ac mae hyn yn bwydo eu hangen am reolaeth o fewn perthynas. Efallai eu bod yn genfigennus iawn ac yn cael trafferth derbyn bod y berthynas ar ben. Yng nghyd-destun cam-drin ar ôl gwahanu, efallai y byddant yn stelcio ac yn aflonyddu a gallai hyn ddigwydd ar lein ac oddi ar lein. Efallai y byddant yn ceisio dylanwadu ar eu partner yn ôl i’r berthynas drwy wneud apeliadau emosiynol neu fygythiadau. Gall hyn gynnwys ‘bomio â chariad’ ac addewidion i newid neu fygythiadau i gyflawni hunanladdiad os na fydd eu partner yn dychwelyd.
Personoliaethau Gwrthgymdeithasol – Gellir adnabod personoliaethau gwrthgymdeithasol mewn ymddygiadau fel diystyru’r gyfraith a hawliau pobl eraill. Gallant fod yn ystrywgar, yn fyrbwyll a pheidio ag edifarhau am eu gweithredoedd a’r niwed y maent wedi’i achosi. Yng nghyd-destun cam-drin ar ôl gwahanu, gall yr ymddygiadau gynnwys codi ofn, bygythiadau a thrais gyda’r bwriad o adennill eu rheolaeth. Gallant hefyd fanteisio ar y system gyfreithiol drwy wneud cyhuddiadau ffug, a gallant hefyd ddefnyddio plant fel gwystlon yn eu hymdrech i arfer grym a rheolaeth a chosbi eu partner heb ystyried y canlyniadau
Sut mae’n edrych?
Gall cam-drin ar ôl gwahanu ddigwydd mewn sawl ffordd wahanol:
Cam-drin Economaidd: Gall hyn gynnwys peidio â thalu arian ar gyfer y plant, cuddio asedau, neu wneud drwg i sgôr credyd y dioddefwr. Nod y camdriniwr yw cadw rheolaeth dros adnoddau ariannol y dioddefwr, a thrwy hynny gyfyngu ar eu gallu i symud ymlaen a sefydlu annibyniaeth.
Cam-drin Cyfreithiol a Gweinyddol: Gall camdrinwyr ddefnyddio’r system gyfreithiol fel arf ar gyfer cam-drin drwy gyflwyno achosion cyfreithiol gwamal, gwrthod cydymffurfio â gorchmynion llys, neu wneud i achosion cyfreithiol bara mwy nag sydd raid er mwyn dihysbyddu adnoddau a phenderfynoldeb y dioddefwr.
Cam-drin Emosiynol a Seicolegol: Mae hyn yn cynnwys stelcio, aflonyddu, bygythiadau ac ymddygiadau eraill sydd wedi’u cynllunio i feithrin ofn a chadw rheolaeth. Gall camdrinwyr niweidio enw da pobl, drwy ledaenu sïon a gwneud honiadau ffug i ynysu’r dioddefwr oddi wrth eu rhwydwaith cymorth.
Defnyddio Plant fel Gwystlon: Mewn rhai achosion, bydd camdrinwyr yn ceisio dylanwadu ar blant fel ffordd o reoli eu cyn-bartner. Gall hyn gynnwys troi’r plant yn erbyn y rhiant arall, defnyddio ymweliad i fargeinio, neu hyd yn oed geisio cael gwarchodaeth fel ffordd o reoli.
Beth ydy’r Effaith?
Mae pellter corfforol ar ôl gwahanu neu ysgaru yn golygu bod cam-drin emosiynol yn tueddu i fod yn fwy cyffredin na cham-drin corfforol. Mewn rhai achosion, bydd camdrinwyr yn dechrau cam-drin eu cyn-bartner ar ôl gwahanu, hyd yn oed os nad yw cam-drin wedi bod yn nodwedd o’r berthynas cyn hynny. Gall gael effeithiau hirdymor sy’n arwain at broblemau ymddiriedaeth ac iechyd meddwl fel gorbryder, iselder a PTSD. I bartneriaid sydd wedi gwahanu ac sydd â phlant gyda’i gilydd, gall hyn fod yn arbennig o anodd gan nad yw magu plant ar y cyd yn debygol o weithio. Ar ben hynny, gellir defnyddio plant fel cyfrwng i gam-drin. I bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin ar ôl gwahanu, gallai hyn fod yn gam-drin ariannol neu economaidd sy’n cyfyngu ar fynediad at arian, pwysau i newid ewyllysiau, neu adnoddau fel ffonau neu gymhorthion meddygol. Hefyd, gall camdrinwyr atal mynediad at anifeiliaid anwes fel ffordd o gosbi eu dioddefwyr.
Sut gallwn ni helpu?
Gall unrhyw un sydd wedi profi cam-drin domestig mewn unrhyw ffordd ofyn am help beth bynnag fo’u hoedran, eu rhyw neu eu hunaniaeth. Un gwahaniaeth mawr o ran cefnogi pobl hŷn sy’n dioddef cam-drin domestig yw’r tebygolrwydd y byddant yn parhau i gadw mewn cysylltiad â’r camdriniwr drwy gysylltiadau teuluol. Yng Ngwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru, gallwn ni ddarparu cymorth drwy weithio gyda phobl i asesu eu hamgylchiadau a’u helpu i ddatblygu cynlluniau diogelwch i leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig. Gallwn ni hefyd eu cyfeirio at wasanaethau eraill sy’n darparu cymorth â llesiant, budd-daliadau a chredydau pensiwn, yn ogystal â chymorth yn gysylltiedig â thai.