Llety Diogel

Mae ein llochesi wedi’u lleoli ledled ardal Ceredigion. Gyda chyfleusterau i ddiwallu unrhyw anghenion hygyrchedd yn ein lloches annibynnol. Mae ein llochesi cymunedol yn lletya menywod a phlant yn unig. Rydym hefyd yn cynnig llety ar wahân i ddynion a phlant. Mae’r cyfeiriadau’n gwbl gyfrinachol. Mae ein staff arbenigol ar gael i gynnig cefnogaeth ni waeth pwy ydych chi.

Tra yn y lloches, mae pob unigolyn yn cael ei gefnogi a’i annog i ddatblygu sgiliau byw annibynnol a meithrin eu hunan-barch a’u hyder.

Mae anghenion pob unigolyn yn unigryw a byddwch yn cael eich cefnogi yn unol â’ch asesiad anghenion trwy gynllun cymorth i’ch helpu i gyflawni eich nodau.

Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig

  • Mae modd cael mynediad at y llety brys hwn unrhyw bryd, dydd neu nos, 365 diwrnod y flwyddyn.
  • Mae’r lleoliad yn cael ei gadw’n gwbl gyfrinachol er mwyn sicrhau eich diogelwch.
  • Rydym yn darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol 1-i-1.
  • Rydym yn darparu cefnogaeth i gael mynediad at unrhyw fudd-daliadau y gallech fod eu hangen.
  • Mae gennym amrywiaeth o lochesi i fenywod a phlant yn ogystal â dynion a’u plant.
  • Mae WWDAS hefyd yn eich cefnogi i ddychwelyd adref os yw’n ddiogel gwneud hynny. Os ydych chi am ddychwelyd adref, gallwn ni, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, geisio darparu gwell diogelwch i chi yn eich cyfeiriad cartref.

Mae WWDAS yn cynnig uned wasgaredig annibynnol i ddynion sy’n chwilio am loches.